Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 29 Medi 2016

Amser: 09.31 - 14.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3732


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Richard Lee, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dr Isolde Shore-Nye, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Suzanne Scott-Thomas, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol

Mair Davies, Cadeirydd, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol

Professor Tayyeb Tahir, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr Mair Parry, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Neil Ayling, ADSS Cymru

Claire Marchant, ADSS Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 466KB) Gweld fel HTML (407KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.

 

2       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

2.2 Cytunodd Tracy Myhill i roi data i'r Pwyllgor yn ymwneud â chynllun yr Ymddiriedolaeth i ymdrin â galwyr aml.

 

3       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS)

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

 

4       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) a Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH)

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

4.2 Cytunodd yr Athro Tahir i roi data i'r Pwyllgor yn ymwneud â sut mae derbyniadau i'r ysbyty yn effeithio ar gleifion â dementia; a data yn amlinellu sut mae rhai salwch iechyd meddwl yn gwaethygu yn ystod cyfnod y gaeaf.

 

5       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2 Cytunodd Mr Ayling i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

·         data ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y brechiad ffliw ymysg staff mewnol awdurdodau lleol a staff a gyflogir gan sefydliadau annibynnol sy'n gweithio yn y sector gofal cartref;

·         tystiolaeth yn dangos lle mae'r Gronfa Gofal Canolradd wedi bod yn effeithiol o ran helpu i reoli galw a phwysau eraill ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol;

·         data yn ymwneud â nifer y gweithwyr a gyflogir yn y sector gofal cymdeithasol sydd o wledydd yr UE a gweldydd nad ydynt yn yr UE.

 

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

7       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - trafod tystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod heddiw

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod sesiynau'r dydd ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17.

 

7.1   Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymatebion i’r Ymgynghoriad

8       Ystyried Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor

8.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

8.2 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad byr i recriwtio meddygol a chytunodd arno. Bydd rhagor o fanylion a gwybodaeth am ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor yn fuan.

 

9       Trafod Bil Cymru Llywodraeth y DU

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru Llywodraeth y DU a chytunodd ar yr ymateb hwnnw. Bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Pwyllgor yn fuan.

 

10   Trafod Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.

 

11   Trafod Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.